Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:02 - 10:55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Elin Jones Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Arfon Rhys, Prif Ddeisebwr Emma Sangster, Forces Watch Sara Hawys, Gwahardd recrwitio mewn ysgolion |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, ac roedd Elin Jones AC yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
3 Trafodaeth am weithgarwch y Pwyllgor
Trafododd yr Aelodau'r hyn y maent am i'r Pwyllgor ei wneud yn ystod tymor yr hydref.
4 P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol
5 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 2 Mehefin a chytunodd i ysgrifennu at:
· fyrddau iechyd lleol yn unigol a gofyn iddynt a ydynt yn cofnodi unrhyw ddata ynghylch y defnydd o wasanaethau caplaniaeth; a gofyn sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd lleol; a'r
· Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi gwybod iddo am y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ei wneud ar y deisebau, gan amlygu pryderon deisebwr y Gaplaniaeth Elusennol am y diffiniadau o ofal ysbrydol a chrefyddol a holi a yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu gwasanaethau caplaniaeth.
Gan ddibynnu ar yr ymatebion gan fyrddau iechyd lleol a'r Gweinidog, efallai y bydd y Pwyllgor yn gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar arall ar y ddeiseb.
6 Deisebau newydd
6.1P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i holi ei farn am y ddeiseb.
6.2P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.
6.3P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i holi ei farn am y ddeiseb.
6.4P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a
· Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro yn holi eu barn am y ddeiseb.
6.5P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r
· Gweinidog Cyllid yn holi eu barn am y ddeiseb.
6.6P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.
7 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
7.1P-03-262 Academi Heddwch Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor drwy gydol y gwaith o ystyried y ddeiseb.
7.2P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro ei rôl o ran gwybodaeth i gleifion am wasanaethau canser.
7.3P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Ceredigion yn amlygu pryderon y deisebwr am yr adolygiad annibynnol a gofyn am ei farn am y pryderon hyn.
7.4P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· glywed tystiolaeth lafar ynghylch y ddeiseb gan y deisebwyr a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn iddo roi tystiolaeth yn amlygu'r pryderon sydd gan y deisebwr o hyd am y cyllid a'r gwasanaethau annigonol i bobl ag anhwylderau bwyta.
7.5P-04-460 Moddion nid Maes Awyr
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· rannu datganiad ysgrifenedig diweddar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â'r deisebwr, ac i holi ei farn am yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru; ac
· ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y pryderon am yr amser y mae'n ei gymryd i ymateb i'r Pwyllgor.
Awgrymodd y Pwyllgor efallai y byddai'n ystyried gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar gan bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn y dyfodol.
7.6P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn holi ei farn am y ddeiseb.
7.7P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb datganiad y Gweinidog yn nodi nad oes ganddo unrhyw fwriad gwneud hyfforddiant triniaeth cynnal bywyd brys yn rhan orfodol o'r cwricwlwm.
Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i roi gwybod am y ddeiseb i Lywodraethwyr Cymru.
7.8P-04-467 Arholiadau ym mis Ionawr
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau.
Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog at y deisebwyr.
7.9P-03-263 Rhestru Parc y Strade
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn holi a fyddai Cadw'n ystyried cofrestru'r cae chwarae ym Mharc y Strade yn y categori chwaraeon.
7.10 P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y gwaith a wnaed eisoes a chan nad yw Llywodraeth Cymru'n rhoi rhagor o gyllid iddo.
7.11 P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn amlygu pryderon y deisebwr cyn yr ystyrir y mater ymhellach.
7.12 P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid canlynol yn holi eu barn am y mater:
· Y Comisiwn Etholiadol
· Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol
· Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Un Llais Cymru
7.13 P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am gynnwys y deisebwr ar y rhestr ymgynghori ar gyfer gwaith ymgynghori ar reilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.
7.14 P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu cyfarfod rhwng y deisebwyr a Chyngor Caerdydd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd yn ystod yr ymweliad.
7.15 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid canlynol yn holi eu barn am y mater:
· Cyngor Gwynedd
· Anabledd Cymru
· Age Cymru
· Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
· Comisiynydd Plant Cymru
Rhoddodd Joyce Watson wybod i'r Pwyllgor am ei chanfyddiadau hi yn dilyn yr ymweliad â'r deisebwyr. Diolchodd i’r deisebwyr am gwrdd â hi ac am drafod yr hyn sy'n peri pryder iddynt ac i staff llyfrgell Abermo am eu croeso yn ystod yr ymweliad.
8 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion: Sesiwn Dystiolaeth
Atebodd Arfon Rhys, Sara Hawys ac Emma Sangster gwestiynau'r Pwyllgor.
Cytunodd Emma Sangster i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am weithgarwch y lluoedd arfog mewn ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.